Skip to main content

English

Yn ôl

Gwasanaeth Gwrandawiadau'r Llysoedd a'r Tribiwnlysoedd (CaTH)
Polisi Cyhoeddi

1. Cwmpas a diben

Mae'r polisi hwn yn esbonio sut gall gwybodaeth a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Gwrandawiadau'r Llysoedd a'r Tribiwnlysoedd (CaTH) Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) gael ei hailddefnyddio, o dan ddwy drwydded ar wahân lle bo gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi fel rhan o dasg cyhoeddus GLlTEF, gyda'r wybodaeth yn destun Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2015ar gyfer un ai dadansoddiad cyfrifiadurol neu ddadansoddiad arall. Mae hefyd yn pennu beth mae GLlTEF yn ei ddisgwyl gan ailddefnyddwyr wrth gyhoeddi gwybodaeth sy'n deillio o wybodaeth a gyhoeddwyd gan CaTH.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw un sy'n ailddefnyddio gwybodaeth GLlTEF a gyhoeddwyd gan CaTH, gan gynnwys unigolion, ymchwilwyr a sefydliadau. Mae GLlTEF yn gweithredu trefniadau trwyddedu a llywodraethu gwahanol yn ddibynnol ar p'un a yw'r ailddefnydd o'r wybodaeth a fwriedir yn bwriadu cynnal dadansoddiad cyfrifiadurol fel yr esboniwyd yn y polisi hwn.

2. Cefndir

Mae GLlTEF yn asiantaeth weithredol o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) ac mae'n casglu a phrosesu data ar gyfer perfformiad ei swyddogaethau cyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys:

Mae GLlTEF wedi ymrwymo i ddarparu mynediad i wybodaeth ar gyfer ystod o ddefnyddwyr ar gyfer amryw bwrpasau. Mae darparu mynediad at wybodaeth GLlTEF yn bwysig oherwydd mae'n:

Fodd bynnag, rhaid i fynediad at wybodaeth gael ei gydbwyso yn erbyn ystyriaethau cyfreithiol, moesegol, a gweithredol, gan gynnwys tegwch, preifatrwydd, diogelwch, a'r weinyddiaeth gywir o gyfiawnder.

3. Diffiniadau a chategorïau o ddata

Mae'r adran hon yn egluro'r categorïau gwahanol o wybodaeth a gwmpesir gan y polisi hwn.

3.1 Gwybodaeth am restrau

Mae gwybodaeth am restrau yn cynnwys gwybodaeth am wrandawiadau llys a thribiwnlys sydd wedi'u trefnu, ac sy'n cael eu rhannu gan Wasanaeth Gwrandawiadau'r Llysoedd a'r Tribiwnlysoedd (CaTH), gan gynnwys dyddiadau, amseroedd, lleoliadau, awdurdodaethau a dynodwyr achosion.

3.2 Gwybodaeth uwch

Gwybodaeth uwch yw gwybodaeth am restrau sydd wedi'i hatodi, neu ei chyfoethogi neu wedi'i darparu mewn ffordd sy'n mynd tu hwnt i restrau cyhoeddus sylfaenol. Cyhoeddir yr wybodaeth hon gan CaTH, gyda mynediad at wybodaeth yn cael ei lywodraethu gan drefniadau mynediad a wnaed gan GLlTEF gyda'r sawl ag angen proffesiynol i weld yr wybodaeth hon. Adlewyrchir hyn yn nosbarthiadau diogelwch CaTH. Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys unrhyw fanylion ychwanegol, fel cyfeiriad llawn diffynnydd.

4. Datganiad polisi ac egwyddorion cyhoeddi

4.1 Tryloywder

Mae GLlTEF wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw am sut mae gwybodaeth a gyhoeddir gan CaTH yn cael ei rhannu a'i defnyddio.

Bydd GLlTEF yn cyhoeddi gwybodaeth ar ei wefan am:

Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi ar dudalennau pwrpasol gyda dolenni iddynt ar y dudalen "Cael mynediad at ddata GLlTEF" - Panel Llywodraethu Trwydded Llys a Thribiwnlys i Drydydd Parti sy'n cael ei diweddaru bob mis.

4.2 Priodoli

Rhaid i ddeiliaid trwydded enwi GLlTEF fel ffynhonnell y data ym mhob cyhoeddiad ac allbynnau sy'n defnyddio'r wybodaeth a gyhoeddir drwy CaTH.

Dylai'r enwi fod mewn lle clir a gweledol, er enghraifft:

4.3 Ymwrthodiad

Dylai'r holl gyhoeddiadau neu allbynnau gynnwys ymwrthodiad yn ei wneud yn eglur nad yw GLlTEF yn cefnogi'r gwaith. Y geiriad a awgrymir yw:

"Mae'r penderfyniadau barnwrol a'r achosion, data gwrandawiadau, cofrestrau a rhestrau a'r wybodaeth a gynhyrchir ar gyfer gweinyddu cyfiawnder yn hawlfraint y Goron a/neu'n hawl cronfa ddata ac fe ailgynhyrchir gyda chaniatâd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF dan awdurdod dirprwyedig gan Y Ceidwad Cofnodion Cyhoeddus. Nid yw GLlTEF yn cymeradwyo'r dadansoddiad, canfyddiadau neu gasgliadau a fynegir."

4.4 Cywirdeb a chyflwyniad cyfrifol

Rhaid i ailddefnyddwyr sy'n defnyddio gwybodaeth o dan y Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti, sy'n caniatáu dadansoddiad cyfrifiadurol o ddata CaTH, gymryd camau rhesymol i sicrhau bod cyhoeddiadau:

5. RPSI 2015 a'r dull trwyddedu

5.1 Ailddefnyddio nad yw'n cynnal dadansoddiad cyfrifiadurol o wybodaeth - y Drwydded Cyfiawnder Agored F2.0

Mae gwybodaeth a gyhoeddwyd gan CaTH sy'n cael ei hailddefnyddio heb gynnal dadansoddiad cyfrifiadurol o'r wybodaeth yn cael ei lywodraethu drwy'r Drwydded Cyfiawnder Agored F2.0.

Mae hyn yn cynnwys ailddefnyddio at ddibenion fel:

Lle bo ailddefnyddio yn syrthio o fewn y categori hwn, mae'n destun Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2015 (RPSI 2015), oni bai ei fod wedi'i eithrio fel arall ac wedi'i lywodraethu gan y Drwydded Cyfiawnder Agored F2.0, sy'n cydymffurfio â RPSI.

5.2 Ailddefnyddio lle cynhelir dadansoddiad cyfrifiadurol o wybodaeth gyda data sydd ar gael yn gyhoeddus neu gyda data cyfyngedig, uwch - y Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti

Lle bo rhywun yn dymuno cynnal dadansoddiad cyfrifiadurol o ddata a gyhoeddwyd gan CaTH, gan gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

Mae angen derbyn Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti.

Mae caniatâd am drwydded i gynnal dadansoddiad cyfrifiadurol drwy gais yn unig. Mae mwy o wybodaeth ar sut i wneud cais ar gael yma: Gwneud cais am Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti GLlTEF

6. Gwybodaeth uwch: mynediad ac ailddefnyddio

6.1 Mynediad at wybodaeth uwch

Gellir darparu mynediad at wybodaeth uwch i grwpiau defnyddwyr penodol, fel:

Gall mynediad fod yn destun meini prawf cymhwysedd, gofynion dilysu, a thelerau ac amodau ychwanegol.

6.2 Defnyddiau a ganiateir

Gellir ailddefnyddio gwybodaeth uwch dim ond at bwrpasau sy'n gyson â:

6.3 Cyfyngiadau

Ni ddylai ailddefnyddwyr o wybodaeth uwch a gafwyd drwy'r Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti:

7. Rhannu pethau gydag eraill a mynediad i drydydd bartïon

Ni ddylai ailddefnyddwyr rannu gwybodaeth am restrau neu wybodaeth uwch gyda thrydydd bartïon, nac ei hanfon ymlaen i eraill, oni bai bod hyn wedi'i ganiatáu gan y drwydded berthnasol.

Lle caniateir anfon gwybodaeth ymlaen, rhaid i'r un telerau ac amodau fod yn berthnasol i'r holl ddefnyddwyr dilynol.

8. Llywodraethu a gwneud penderfyniadau

Mae GLlTEF wedi sefydlu fframwaith llywodraethu i bennu canlyniad ceisiadau i gynnal dadansoddiad cyfrifiadurol o wybodaeth a gyhoeddwyd gan CaTH.

Gwneir penderfyniadau yn amodol ar gyhoeddiad trwydded briodol, sy'n pennu'r telerau ac amodau gan gynnwys defnyddiau a ganiateir, priodoli, datgelu i eraill, diogelu data, diogelwch a gofynion cydymffurfio.

Mae'r fframwaith llywodraethu wedi'i gefnogi gan GLlTEF, y Swyddfa Farnwrol, y Farnwriaeth a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gydag awdurdod a weithredir dan ddirprwyaeth gan y Ceidwad Cofnodion Cyhoeddus yn Yr Archifau Cenedlaethol.

9. Cydymffurfio, monitro ac adolygu

Gall GLlTEF fonitro cydymffurfiaeth â'r polisi hwn ac ymchwilio i bryderon neu gwynion yn ymwneud ag ailddefnyddio gwybodaeth a gyhoeddwyd drwy CaTH.

Gall GLlTEF wneud cais am wybodaeth am sut mae data yn cael ei ddefnyddio a gall atal neu dynnu'n ôl mynediad lle bo'n angenrheidiol.

10. Adrodd ac adolygu

Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru yn ôl y gofyn.

Bydd gwaith y panelau llywodraeth perthnasol yn cael eu hadrodd arnynt yn flynyddol i'r Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth.

I gael mwy o wybodaeth, cyngor neu gymorth, cysylltwch â'r Tîm Mynediad at Ddata a Llywodraethu ar-lein (argymhellir) yn thirdpartydatalicence@justice.gov.uk.

Os na allwch gysylltu â ni ar-lein, gallwch ysgrifennu atom yn:

Tîm Mynediad at Ddata a Llywodraethu - Trwydded Data Trydydd Parti
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Post point 6.32-34
102 Petty France
Llundain
SW1H 9AJ